Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.

Te Prynhawn a Thaith o’r Castell
Dydd Sadwrn 17 Mehefin a
Dydd Sadwrn 16 Medir
4.30pm – 7pm
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
Dewch i fwynhau noswaith unigryw o de prynhawn ac archwilio trwy’r castell Cymreig hanesyddol hwn! Mwynhewch frechdanau a theisennau cartref ffres, wedi’u gweini â the neu goffi yng Ngardd Furiog y Castell. Ar ôl cael te, ewch ar daith unigryw o amgylch y Castell a dysgu am ei orffennol rhyfeddol wrth i straeon am ei hanes lliwgar gael eu hadrodd.
Ni roddir ad-daliadau.
Ychwanegwch unrhyw ofynion deietegol i'r blwch Sylwadau/Cyfarwyddiadau Arbennig pan fyddwch yn gwirio.
£14.00
Taith drwy’r Castell gyda’r Hwyr
Dydd Iau 27 Gorffennaf am 8pm
Dydd Iau 17 Awst am 7.15pm
Dydd Iau 31 Awst am 6.45pm
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
Mwynhewch daith dywysedig o amgylch y Castell wedi iddo gau am y dydd. Dysgwch am ei esblygiad o gaer Geltaidd i amddiffynfa Ganoloesol, cadarnle Tuduraidd ac yn olaf blasty Elisabethaidd, a sut gafodd ei hanes ei ffurfio gan drigolion anfad a lliwgar.
Ni roddir ad-daliadau.
£6.00

Taith Ysbrydion
Dydd Iau 20 Gorffennaf am 8pm
Dydd Iau 10 Awst am 7.30pm
Dydd Iau 24 Awst am 7pm
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
Dysgwch am ochr dywyllach bywyd y Castell wrth ichi ymuno â thaith ysbrydion dywysedig. Bydd ein tywysydd deallus yn adrodd straeon am ysbrydion, bwganod a digwyddiadau iasoer a brofwyd yn y Castell..
Ni roddir ad-daliadau
£6.00

Taith Ysbrydion Calan Gaeaf i’r Teulu Cyfan
Dydd Llun 30 Hydref
Dydd Mawrth 31 Hydref
4pm – 5pm
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
Ymunwch â thaith arswydus o amgylch y Castell, sy’n addas i’r teulu cyfan. Cadwch lygad yn agored wrth ichi wrando ar hanesion am ymddangosiad ysbrydion; ’does wybod beth welwch chi...
Ni roddir ad-daliadau.
£6.50

Theatr Awyr Agored: Sherwood: The Adventures of Robin Hood
Dydd Llun 31 Gorffennaf – Dydd Gwener 4 Awst
Drysau’n agor 5.45pm
Sioe’n dechrau 6.30pm
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
Mae cwmni Red Herring Theatre yn dychwelyd i Gastell Caeriw gyda sioe’n llawn cyffro, chwerthin, ymladdfeydd cleddyfa, a chymeriadau anfarwol fel John Bach, y Brawd Tuck, a’r Forwyn Farian. Mae Sherwood: The Adventures of Robin Hood yn adrodd stori fytholwyrdd arwr y werin sy’n herio’r rheini sydd mewn grym. Mae’r stori deuluol gyffrous hon yn berffaith ar gyfer noson o haf. Felly dewch â’ch picnic a byddwch yn barod i osgoi ambell i ffon ddwybig – fyddwch chi ddim am golli eiliad o’r hwyl herfeiddiol! Argymhellir ar gyfer 5+ oed
Ni roddir ad-daliadau.
£9.00

Theatr Awyr Agored: The Wizard of Oz
Dydd Llun 7 Awst
Drysau’n agor 4.45pm
Sioe’n dechrau 5.30pm
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
Fe’ch gwahoddir i glicio eich sodlau a dawnsio i lawr yr heol brics melyn wrth i gwmni Immersion Theatre gyflwyno addasiad newydd sbon o The Wizard of Oz, sioe hudol i’r teulu cyfan sy’n sicr o’ch cael yn eich dyblau o’r dechrau i’r diwedd! Ymunwch â Dorothy ar ei thaith i’r Ddinas Emrallt wrth iddi hi a’i chyfeillion cywir: y bwgan brain twp ond eofn, y llew llwfr, a’r dyn tun digalon (yn llythrennol!), lywio eu ffordd trwy wlad hudol i chwilio am y nerthol a’r rhyfeddol Ddewin yr Oz. Mae Gwrach Gas y Gorllewin yn benderfynol o’u hatal doed a ddel, a fydd ysbryd cyfeillgarwch yn trechu’r drygionus? Gyda digonedd o ryngweithio cynulleidfaol, gwisgoedd gwych, sgript wreiddiol, a llawer o chwerthin, mae’n sicr y bydd y fersiwn newydd hon yn eich cael ar eich traed i floeddio, clapio a chanu gyda’r casgliad o ganeuon newydd wrth i gwmni Immersion Theatre gyflwyno gwledd wych i’r teulu oll.
Argymhellir ar gyfer 4+ oed
Ni roddir ad-daliadau
£11.00

Open Air Theatre: Bad Dad
Dydd Mawrth 22 Awst
Drysau’n agor 4.45pm
Sioe’n dechrau 5.30pm
RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW
Wedi ei ysgrifennu gan un o awduron plant mwyaf poblogaidd y DU – David Walliams, mae “Bad Dad” yn dilyn Frank a’i dad Gilbert wrth iddynt wneud eu gorau i ddianc rhag crafangau’r arch-droseddwr lleol a chlirio enw Gilbert. Nid oedd tad Frank, sef Gilbert, yn cael ei ystyried yn droseddwr erioed. I ddweud y gwir, i Frank a’r bobl leol fe oedd ‘brenin chwedlonol y trac’, Gilbert y Gwych. Hynny yw, tan i ddamwain ddifrifol roi stop i’w ddyddiau rasio. Ac yntau’n teimlo fel ei fod wedi mynd o ‘arwr i adfyd’, mae tad Frank yn cael ei hudo gan atyniad tywyll bywyd fel gyrrwr dianc. Mae’r stori dwymgalon hon yn dilyn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau perthynas tad a mab wrth iddynt lywio eu ffordd trwy fyd yn llawn troseddau, cyrsiau ceir a charcharorion! Argymhellir ar gyfer 7+ oed.
Ni roddir ad-daliadau.