Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.
O gwmpas Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Teithiau Cerdded a Bywyd Gwyllt

Taith Gwylio Morloi – Porthstinan
Dydd Sadwrn 16 Medi, Dydd Sul 24 Medi, 9.45am-15.30pm. RHAID ARCHEBU LLE.
Ar ddechrau tymor geni’r morloi bach, dewch gyda’r Parcmon lleol i weld ei hoff fannau gwylio lle bydd yn eich dysgu sut i wylio morloi yn ddiogel. Taith diwrnod llawn yw hon lle byddwn yn cerdded am 6 milltir ac yn mynd ar fysiau’r arfordir i weld y glannau o gwmpas Tyddewi. Bydd y bws yn mynd â ni o Oriel y Parc i Borth Stinan i fynd ar Lwybr yr Arfordir a cherdded ymlaen i Gaerfai, a cherdded yn ôl wedyn ar hyd y lôn i Oriel y Parc. Mae’r daith yn mynd ar dir gwastad gan mwyaf ac mae’r llwybr yn llydan, heblaw am ychydig o rannau byr lle mae’n gul ac yn agos i ymyl y clogwyn. Bydd toriad am ginio hanner ffordd drwy’r daith. Bydd y tâl am y tocyn bws yn gost ychwanegol. Ni roddir ad-daliadau.
£6.00

Taith Gwylio Morloi – Llanwnda
Dydd Gwener 29 Medi, Dydd Gwener 6 Hydref. 5.15pm-7.30pm. ARCHEBU'N HANFODOL.
Ar ddechrau tymor geni’r morloi bach, dewch gyda’r Parcmon lleol i weld ei hoff fannau gwylio lle bydd yn eich dysgu sut i wylio morloi yn ddiogel. Byddwn yn cwrdd yn Llanwnda i wylio’r morloi yn y baeau islaw. Mae lle i barcio ar gael ger yr eglwys. Sesiwn ddwy awr. Ni roddir ad-daliadau.
£4.00

Saundersfoot - Tywod a Glo
Dydd Gwener 29 Medi, 10am-12.30pm. ARCHEBU'N HANFODOL
Dewch gyda ni ar daith i archwilio hanes mwyngloddio glo Saundersfoot gyda thramffyrdd, incleins, a chloddfeydd. Digon o gefn gwlad hardd hefyd ac, wrth gwrs, traethau euraidd. Ni ellir ad-dalu tocynnau.
Cyfarfod tu allan i'r Neuadd Regency (SA69 9NG/SN 134 047) ym Maes Parcio Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Sylwch fod y man cyfarfod bellach y tu allan i’r Neuadd Regency (NID ym maes parcio Harbwr Saundersfoot, fel yr hysbysebwyd yn Coast to Coast). Ni roddir ad-daliadau.
£0.00

Diwrnod Afalau ym Mherllan Sain Ffraid
Dydd Sadwrn 30 Medi, 10am-3pm
AM DDIM. Does dim angen archebu. Rhaid i blant fod o dan oruchwyliaeth oedolyn.
Dewch gyda ni i ddathlu’r tymor afalau ym Mherllan Sain Ffraid! Cyfle unigryw i weld y berllan dreftadaeth ar ddiwrnod allan gyda’r teulu. Gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, neu ddilyn llwybr hunandywysedig i weld y gwahanol amrywogaethau o goed sy’n tyfu yn y berllan. Cewch sgwrs gyda’r Parcmyn i ddysgu rhagor am afalau a sut maen nhw’n llesol i fywyd gwyllt.
Man cyfarfod
Sain Ffraid
Sir Benfro
SA62 3AJ
Gweld ar Google Map
£0.00

Diwrnod Archaeoleg
4 Tachwedd 2023 10am – 4pm
Tocynnau yn dod yn fuan!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a bydd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr yn trafod gwaith cloddio diweddar a phrosiectau o bob rhan o'r Parc Cenedlaethol a Sir Benfro. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosfa gyda gwybodaeth gan grwpiau cymunedol a mudiadau sy'n ymwneud â threftadaeth ac archaeoleg yr ardal.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd.
Mae tocyn yn £20 y person (yn cynnwys cinio) a bydd modd archebu lle o fis Hydref 2023.
Ewch i wefan Awdurdod y Parc i gofrestru i'n rhestr e-bostio archaeoleg.
I weld cynnwys o ddigwyddiadau blaenorol ewch i sianel YouTube y Diwrnod Archaeoleg.
£0.00

Adar y Dŵr y Cleddau
Dydd Sadwrn 11 Tachwedd, 12pm-2pm. RHAID ARCHEBU LLE.
Gwisgwch yn gynnes ac ymuno â Chris y Parcmon ar gyfer taith hamddenol ar hyd glannau Gorllewinol y Cleddau. Darganfyddwch y bywyd gwyllt sy’n bwydo ar hyd ei glannau. Dyma gyfle gwych i weld adar hirgoes, gan gynnwys y gylfinir a’r pibydd coesgoch. Cyfarfod ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Little Milford (SA62 4ET) Ni roddir ad-daliadau.