Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.
Digwyddiadau Oriel y Parc
I gael rhagor o wybodaeth am Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, ewch i wefan Oriel y Parc.

Geiriau Diflanedig / Lost Words
Dydd Sul 2 Gorffennaf hyd at y gwanwyn 2024
Mae’r arddangosfa hudolus hon yn cyfuno doniau creadigol yr artist Jackie Morris a’r awdur Robert Macfarlane i ddathlu’r berthynas rhwng iaith a’r byd byw, a grym byd natur i danio’r dychymyg.
Yn seiliedig ar lyfr poblogaidd y Sunday Times 2017, nod Geiriau Diflanedig yw ailgysylltu oedolion a phlant â byd natur gan ddefnyddio hud geiriau a chelf.
Am y tro cyntaf erioed, bydd yr arddangosfa hon hefyd yn arddangos Geiriau Diflanedig, fersiwn Gymraeg o'r llyfr, a ysgrifennwyd gan y bardd Mererid Hopwood.
Arddangosfa deithiol a drefnwyd gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books
£0.00

Y Tŵr - Sarah Earl
Dydd Gwener 11 Awst i ddydd Sul 24 Medi
Mae Sarah yn creu paentiadau lliwgar ‘llawen a hudolus’ wedi'u hysbrydoli gan dirwedd Sir Benfro. Mae hi'n gweld bod y sir unigryw hon yn llawn o fanylion hanfodol bach, fel bythynnod bach gwyngalchog, coed wedi'u plygu gan y gwynt, blodau gwyllt, adar ac anifeiliaid. Mae ei phaentiadau’n ddehongliadau personol iawn o’r Sir Benfro y mae’n ei gweld bob dydd – mae rhai yn lleoedd go iawn, rhai wedi’u dychmygu.
£0.00

Ffenestri'r Ystafell Ddarganfod - Sarah Earl
Dydd Mercher 16 Awst i ddydd Mawrth 17 Hydref
Mae Sarah yn creu paentiadau lliwgar ‘llawen a hudolus’ wedi'u hysbrydoli gan dirwedd Sir Benfro. Mae hi'n gweld bod y sir unigryw hon yn llawn o fanylion hanfodol bach, fel bythynnod bach gwyngalchog, coed wedi'u plygu gan y gwynt, blodau gwyllt, adar ac anifeiliaid. Mae ei phaentiadau’n ddehongliadau personol iawn o’r Sir Benfro y mae’n ei gweld bob dydd – mae rhai yn lleoedd go iawn, rhai wedi’u dychmygu.
£0.00

Ystafell Tyddewi - Adar Sir Benfro gan Meg Phillips
Dydd Iau 24 Awst i dydd Llun 2 Hydref
Dyma arddangosfa o luniau dyfrlliw a phrintiau o adar o amgylch yr arfordir a thir Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae cysylltiad Meg ag arfordir Sir Benfro a'i dirwedd amgylchynol amrywiol yn gryf, ac mae llawer o'i hatgofion yn ymwneud ag adar Sir Benfro. Mae adar yn ennyn hiraeth a chysylltiad â gwahanol leoedd; o’r huganod yn plymio i mewn i Fae Sain Ffraid, barcutiaid coch yn esgyn uwchben rhostir neu’r gwylogod a’r raseli yn nythu ar Ynys Dewi. Mae adar yn gyfystyr â'r Parc Cenedlaethol. Mae'r casgliad hwn o baentiadau yn cyfleu harddwch a manylion cywrain yr adar anhygoel hyn nad ydym yn aml yn eu gweld yn agos.
£0.00

Gweithdy Gwneud Marciau a Darlunio Arbrofol
Dydd Iau 2 Tachwedd, 10am - 1pm
Gweithdy i oedolion, £30 y pen.
Ymunwch â’r artist lleol Kate Freeman am weithdy lluniadu arbrofol sy’n addas ar gyfer dechreuwyr pur yn ogystal ag artistiaid sy’n dymuno gweithio mewn ffordd fwy digymell. Bydd y gweithdy’n defnyddio amgylchedd naturiol Oriel y Parc fel testun a man cychwyn wrth i chi archwilio gwneud llinellau a marciau drwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u darganfod, gydag inciau botanegol. Bydd y gweithdy yn grŵp bach o hyd at 15 o bobl.
Archebu yn hanfodol.