Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.
Digwyddiadau Pentref Oes Haearn Castell Henllys
Am ragor o wybodaeth am y safle, ewch i wefan Castell Henllys.

WEDI'I GWERTHU ALLAN! Gweithdy Brethyn Hynafol
Dydd Sadwrn 9 Medi a Dydd Sul 15 Hydref
11am-4pm. ARCHEBU'N HANFODOL
Dysgwch am dechnegau creu brethyn roedd ein cyndeidiau (a chynmamau!) yn eu defnyddio i greu darn o frethyn hynafol eich hun. Yn ystod y gweithdy cewch eich cyflwyno i dechnegau sylfaenol nyddu, gwehyddu a gweithio gyda llifion. Tocyn yn cynnwys mynediad i'r Pentref Oes Haearn a'r holl ddeunyddiau. Addas ar gyfer oed 12+. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy'n talu. Ni ellir ad-dalu’r tocynnau.
£25.00

Taith Gerdded Bwyd a Meddyginiaeth Wyllt
Dydd Sadwrn 23 Medi 11am-1pm. ARCHEBU'N HANFODOL.
Ymunwch a thaith gerdded bwyd gwyllt a meddyginiaeth gyda'r fforiwr proffesiynol Jade Mellor, lle byddwch yn adnabod a chasglu amrywiaeth o ddail, perlysiau a blodau tymhorol, dysgu am eu defnyddiau (coginio a meddyginiaethol) a sut i'w paratoi, a gwneud rhywbeth blasus gwyllt i fynd adref. Tocyn yn cynnwys mynediad i'r Pentref Oes Haearn. 12+ oed.
£25.00

Straeon Ysbrydion Sir Benfro
Dydd Sadwrn 21 Hydref 2.30pm-3.30pm
Ymunwch a ni am taith ysbrydion drwy ein coedydd tywyll o gwmpas y Pentref, a fydd yn eich cyflwyno i straeon rhyfedd a sbeshal creaduriaid a chymeriadau gwerin Cymru. Ni ellir ad-dalu tocynnau.
£5.00

Heuldro'r Gaeaf yng Nghastell Henllys
Dydd Iau 21 Rhagfyr 11am-4.30pm. RHAID ARCHEBU
Mae'r noson hiraf yma, felly beth am ddathlu trwy fynd â'ch hun ar daith gerdded aeafol drwy ein coed, neu rhowch dro ar grefftau cynhanesyddol, neu wrando ar straeon a chaneuon hynafol wrth ymyl y tân. Wrth i’r haul machlud cawn goelcerth fechan yn y Pentref gyda chyfle i chi gwrdd â'r Fari Lwyd (os yw'r tywydd yn caniatáu)! Ni ellir ad-dalu tocynnau.
*Rydych yn gymwys ar gyfer tocyn am ddim os ydych yn:
-plentyn dan 4 oed
-deiliad Tocyn Blynyddol
-defnyddiwr cadair olwyn a/neu ofalwr
-preswylydd gyda chod post Eglwyswrw/Meline.