dangos mwy o

Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.

 

Teithiau Cerdded Maes Tanio Castellmartin

10 Carn Ingli to Ty Canol 01 Small

Teithiau Cerdded Byr Mynyddoedd y Preseli: Taith Gerdded Gylchol Carningli

Dydd Gwener 25 Awst, 1pm-3pm. RHAID ARCHEBU LLE.
Archwiliwch dirwedd aruthrol Mynyddoedd y Preseli gyda’n Parcmyn. P’un a fyddwch yn gweld y safleoedd hanesyddol, chwedlau, archeoleg neu fywyd gwyllt a chynefinoedd aruthrol Mynyddoedd y Preseli, bydd y teithiau cerdded byr hyn yn eich cyflwyno i’r gorau sydd gan y dirwedd ryfeddol hon i’w gynnig.
Ar y daith gylchol 4 milltir o hyd hon byddwch yn archwilio tirwedd hudolus Carningli, sy’n frith o olion cylchoedd cytiau o wareiddiadau anghofiedig a fu unwaith yn byw  yma. Yn un o fryniau mwyaf trawiadol y Preseli, ar ddiwrnod clir mae pen bryn creigiog Carningli yn cynnig golygfeydd godidog ar draws y dirwedd hynafol a garw hon. Cyfarfod yn Bedd Morris (SN036360). Ni roddir ad-daliadau.

£0.00

BeddArthur

Teithiau Cerdded Byr Mynyddoedd y Preseli: Craig Talfynydd

Dydd Mawrth 15 Awst, 1pm-3pm. BOOKING ESSENTIAL

Archwiliwch dirwedd aruthrol Mynyddoedd y Preseli gyda’n Parcmyn. P’un a fyddwch yn gweld y safleoedd hanesyddol, chwedlau, archeoleg neu fywyd gwyllt a chynefinoedd aruthrol Mynyddoedd y Preseli, bydd y teithiau cerdded byr hyn yn eich cyflwyno i’r gorau sydd gan y dirwedd ryfeddol hon i’w gynnig.

Ar y daith gerdded hon byddwch yn mynd i galon Mynyddoedd y Preseli. Mae’r ddringfa raddol yn mynd â chi o amgylch ochr Craig Talfynydd i Fedd Arthur gyda golygfeydd bendigedig o Garn Meini. Wrth i chi gyrraedd Carn Bica, mae'r olygfa i'r gorllewin yn agor allan ac mae'r daith yn dychwelyd trwy safle damwain y Liberator yn ôl i Dan Garn. Cyfarfod yn Dan Garn (SN127308). Ni roddir ad-daliadau.

£0.00

17 Foel Drygarn 01 Small

Teithiau Cerdded y Preseli: Foel Drygarn

 Dydd Mawrth 29 Awst, 10am-1pm. ARCHEBU'N HANFODOL
Dewch gyda’r Parcmon lleol ar daith gerdded fyr i weld tirwedd drawiadol a chyfareddol Mynyddoedd y Preseli. Byddwn yn gweld rhai o’r safleoedd hanesyddol ac yn clywed am y chwedlau sy’n gysylltiedig â’r henebion hyn a’r bobl a oedd yn byw yno. Byddwch yn dysgu hefyd am fywyd gwyllt a chynefinoedd rhyfeddol y Preseli wrth fwynhau golygfeydd godidog o’r dirwedd hudol hon. Mae Foel Drygarn yn cynnwys carneddi claddu o’r Oes Efydd yn ogystal ag olion bryngaer o’r Oes Haearn. Mae’r rhain, ynghyd â’r golygfeydd gogoneddus, yn golygu bod hon ymysg y gorau o’r teithiau cerdded byr yn y Gogledd. Cwrdd yng Nghroesfihangel (SA66 7SA/SN165332). Ni roddir ad-daliadau.

£0.00

BeddArthur

Teithiau Cerdded Byr Mynyddoedd y Preseli: Wac Cymraeg Craig Talfynydd

Dydd Iau 1 Mehefin, 1pm-3pm. RHAID ARCHEBU LLE.
Os ydych chi am loywi eich Cymraeg neu os ydych chi eisoes yn rhugl, ymunwch â Carol y Parcmon i archwilio calon Bryniau Preseli, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hwn yn gyfle i werthfawrogi’r golygfeydd, i weld bywyd gwyllt ac i fwynhau sgwrsio. Dewch i weld sut mae’r iaith wedi’i phlethu i ddiwylliant a hanes lleol yr ardal, gan ffurfio ei chymeriad unigryw arbennig. Wrth ddringo’n raddol byddwch yn crwydro o amgylch Craig Talfynydd i Fedd Arthur, gyda golygfeydd godidog o Garn Meini. Wrth i ni gyrraedd Carn Bica, bydd golygfa agored i’r gorllewin, cyn i ni ddychwelyd heibio i’r safle lle disgynnodd awyren Liberator i'r ddaear, ac yn ôl i Dan Garn. Cwrdd yn Dan Garn (SN127308). Ni roddir ad-daliadau.

£0.00