dangos mwy o

Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.

 

Digwyddiadau Pentref Oes Haearn Castell Henllys

Am ragor o wybodaeth am y safle, ewch i wefan Castell Henllys.

JoinTheTribe

Diwyrnod Addysg Gartref – Ffocysu ar fwyd Oes Haearn

Dydd Gwener 14 Chwefror 
10.30am – 2pm
ARCHEBU'N HANFODOL
Cyfle i deuluoedd a grwpiau addysg gartref i brofi Rhaglen Ysgolion Castell Henllys. Fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i dryfeilu nôl mewn amser i’r Oes Haearn am sesiwn a fydd yn cael ei arweinu gan un o’n dehonglwyr. Mae ein Rhaglen Ysgolion wedi'i chynllunio ar gyfer CA2 ac mae wedi'i hanelu at blant 7-11 oed. Mae ‘na croeso i blant hŷn i ddod gyda’u brodyr neu chwiorydd iau.

£8 y plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynediad i un oedolyn am ddim ym mhob grwp teulu.

£8.00

Castell Henllys Stars

Hanesion Awyr Nos Sir Benfro

Dydd Iau 27 Chwefror, 7pm - 8:30pm

Dathlwch lonyddwch awyr nos Sir Benfro ar gyfer Wythnos Awyr Dywyllwch Cymru gyda noson hudolus o dan y sêr yng Nghastell Henllys, Yng nghwmni Mari Mathias (storïwr a cherddor). Yma i ail-ddychmygu'r chwedlau lleol, duwdodau, y Mabinogi a'n cysylltiad â'r tir a'r awyr. Wrth i'r haul fachlud, a’r lleuad yn disgleirio dros y tir, bydd pob chwedl yn datblygu o dan awyr dywyll y nos; I ddatgelu doethineb  ein cyndeidiau a'u perthynas â'r ddaear a'r bydysawd.

Cerddoriaeth a Hanesion o amgylch tân agored tu mewn i dŷ crwn Oes Haearn. Diod poeth yn cynnwys

Yn addas ar gyfer oedolion a phlant hŷn 8+ yn unig.

Ni ellir ad-dalu tocynnau, mae'n ddrwg gennym ni fydd unrhyw gŵn yn ganiataol ar gyfer y digwyddiad hwn

£8.00

Spinning

Drop Spinning Workshop

Dydd Sul 30 Mawrth
1pm-4pm
ARCHEBU'N HANFODOL

Dysgwch yr technegau sylfaenol, er mwyn creu eich edau eich hunain wrth gwlan defaid. Hanner diwyrnod i’r cyflwyniad o  nyddu gwlan yn defnyddio gwerthyd gollwng.

Fe fydd defnyddiau a hyfforddiant yn cael ei cynnwys yn yr cwrs. Yn addas i plant dros 12 blwydd oed ac sydd o dan ofal oedolyn sydd yn talu. £25 yr person. Mae archebu tocynnau cynllaw yn hanfodol, dydy’n ni ddim yn gallu had-dalu tocynnau.