dangos mwy o

Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.

 

O gwmpas Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Teithiau Cerdded a Bywyd Gwyllt

Pricaston Farm 1380x1035

Taith Bws Mini Maes Castellmartin

Dydd Sul 6 Ebrill, 9:30-4:30pm. RHAID ARCHEBU LLE.
Darganfyddwch drysorau cudd Maes cyfyngedig y Weinyddiaeth Amddiffyn ar un o’n teithiau cerdded Maes Castellmartin, neu ar Daith Bws Mini. Archwiliwch y lleoliad unigryw hwn gyda thywyswr lleol profiadol a gwybodus. Dros 18 oed yn unig. Cyfleusterau cyfyngedig ar y safle. Ni chaniateir cŵn. Ni ellir ad-dalu tocynnau. 

Taith Bws Mini Maes Castellmartin - Cyfle i fwynhau taith diwrnod yn archwilio’r Maes, i’r rhai ag anawsterau symudedd. Cwrdd yng Ngwersyll Merrion, Castellmartin (SA71 5EB/SR939969) Gweld ar Google Maps

35 Solva 01

Solfach: Smyglwyr a Môr-ladron

Dydd Iau 10 Ebrill,  10am-1pm. ARCHEBU'N HANFODOL
Cyfle i fwynhau’r golygfeydd rhyfeddol yn y porthladd bach hyfryd hwn a dysgu am ei ddatblygiad dros y canrifoedd. Byddwn yn cerdded drwy’r caeau tua Naw Ffynnon ac yn dychwelyd ar hyd Llwybr Arfordir Penfro i weld hen safleoedd milwrol a cheyrydd yr Oes Haearn, a chlywed hanesion am fôr-ladron, smyglwyr a llongddrylliadau. Mae'r daith hon yn 3.5 milltir. Cwrdd wrth y bont fach sy’n croesi’r afon ym Mhorthladd Solfach (SA62 6UT/SM806243). Ni ellir ad-dalu tocynnau. Sori ni chaniateir cŵn.

Pricaston Farm 1380x1035

Maes Tanio Castellmartin - Cylchdaith Brownslade

Dydd Llun 21 Ebrill 9:30am-4:30pm. ARCHEBU'N HANFODOL.
Ar y daith gerdded hon byddwch yn cael cyfle prin i fynd drwy rannau mewnol y maes tanio a gweld ei fywyd gwyllt, y defnydd presennol ohono at ddibenion milwrol, ei hanes o’r Oes Haearn ymlaen a’r effaith sydd wedi bod arno o ganlyniad i ddatblygu amaethyddiaeth. I rai dros 18 oed yn unig. Cyfleusterau cyfyngedig ar y safle. Dim cŵn. Cwrdd yng Ngwersyll Merrion, Castellmartin (SA71 5EB/SR939969) Google Maps. Ni roddir ad-daliadau.

 

pcnpa 60 cresswell quay 0000

Taith Gerdded y Tri Chei

Dydd Mercher 23 Ebrill, 10am-5pm. RHAID ARCHEBU LLE.
Taith gerdded tua 7.5 milltir o hyd, am ddiwrnod cyfan, sy’n cysylltu’r tri chei Cresswell, Lawrenni a Landshipping. Dysgwch sut y datblygodd y ceiau hyn yn sgil y diwydiant glo lleol a darganfod cyfrinachau amrywiol Dyfrffordd Fewndirol Cleddau, y llon a’r lleddf. Byddwn yn ymweld â hen safleoedd milwrol, iardiau llongau, y cestyll hollbresennol, y tŷ hynaf yn Sir Benfro a lleoliad trychineb dychrynllyd mewn pwll glo.  Hyn oll, yn ogystal â’r golygfeydd hardd. Cyfarfod wrth y toiledau cyhoeddus yng Nghei Creswell gyda chinio a dillad addas, yn arbennig esgidiau cerdded. Gweld ar Google Maps Ni roddir ad-daliadau. Dim cwn. Plant 7+

£10.00

blackcap 931748872

Beth yw'r Aderyn Hwnnw?

Dydd Iau 24 Ebrill, 10am - 12:00 Archebu'n Hanfodol

Ydych chi'n mwynhau teithiau cerdded coetirol ond angen rhywfaint o help i adnabod bywyd gwyllt? Ymunwch â Chris y Parcmon am dro hamddenol drwy Goedwig Minwear, lle cewch gyngor ac awgrymiadau defnyddiol ar sut i ddod o hyd i adar a’u hadnabod yn seiliedig ar eu cân a’u cri.

Cwrdd ym maes parcio uchaf Minwear Minwear Uchaf Upper - Google Maps. Na chaniateir cŵn. Nid yw tocynnau'n ad-daladwy.

willow warbler 1372518517a

Taith Gerdded Côr y Bore Bach Abergwaun Isaf

Dydd Sul 27 Ebrill, 6am - 8am  Archebu'n Hanfodol

Does dim adeg well o’r flwyddyn na ddiwedd mis Ebrill i godi’n gynnar ac ymgolli yn seiniau syfrdanol côr y bore bach. Ymunwch â’r Parcmon Libby, a fydd yn eich helpu i adnabod yr adar drwy wrando are u cân. Cwrdd ym maes parcio Abergwaun Isaf Google Maps. £7 y pen. Rhaid archebu lle. Dim cŵn.

First 1000 Days2

Grŵp Plant Bach Awyr Agored y 1000 o Ddiwrnodau Cyntaf ym Maenordy Scolton, 5 dydd Mercher o 5 Mawrth i 9 Ebrill

Diolch am eich diddordeb yn y sesiynau 1,000 Diwrnod Cyntaf yn yr Awyr Agored ar gyfer plant bach. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal bob prynhawn Mercher rhwng 1:30-2:30 ym Mharc Maenor Scolton, Ffordd Aberteifi, Hwlffordd, Sir Benfro, SA625QL, dros gyfnod o bum wythnos rhwng 5 Mawrth a 9 Ebrill

Cefndir

Mae menter 1,000 Diwrnod Cyntaf Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynorthwyo rhieni a phlant i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored ac ym myd natur. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i rieni greu profiadau cadarnhaol gyda’u plant yn yr awyr agored gan wella eu hyder a’u gallu fel rhieni.  

Y Gweithgareddau ym Maenor Scolton

Mae’r gweithgareddau wedi eu hanelu at blant sy’n gallu cerdded ond sydd heb ddechrau yn yr ysgol eto (1-4 oed).  Bydd y sesiynau sy’n cael eu cynnal fel rhan o'r rhaglen yn cynnwys gweithgareddau chwarae rhydd ymarferol fel helfa drysor a helfa bwystfilod bach, adeiladu cuddfannau, creu mewn cegin fwd, bwydo adar, a garddio. Bydd stori a hwiangerdd yn cael eu hadrodd i ddod â’r sesiynau i ben.

Ffioedd

Rydym ni’n gofyn am gyfraniad o £12 i dalu am gost pob plentyn sy’n cymryd rhan.   Bydd yr incwm hwn yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro er mwyn cefnogi gwaith ehangach y Parc Cenedlaethol.

 Y ‘print mân’

  • Rhieni a gwarcheidwaid sy’n gyfrifol am eu plant yn ystod y sesiynau, ac rydym ni’n eu hannog i gymryd rhan a chefnogi eu plentyn yn yr holl sesiynau.
  • Dewch a byrbrydau a diodydd ar eich cyfer chi a'ch plentyn.
  • Dylai plant ac oedolion wisgo’n addas ar gyfer y tywydd er mwyn gallu mwynhau'r sesiwn yn llawn.  Mae hyn yn cynnwys gwisgo digonedd o ddillad cynnes, cotiau a throwsusau sy’n dal dŵr, esgidiau addas, hetiau a menig.

 Byddwch chi’n derbyn ffurflen ganiatâd dros e-bost pan fyddwch chi’n archebu eich lle.  Mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno hon cyn y sesiwn gyntaf.

  Edrychwn ymlaen at gael hwyl yn yr awyr agored gyda chi’r gwanwyn hwn.

£12.00