dangos mwy o

Like most websites we use cookies. In order to deliver a personalised, responsive service and to improve the site, we remember and store information about how you use it. This is done using simple text files called cookies that sit on your computer. These cookies are completely safe and secure and will never contain any sensitive information. They are used only by us.

 

Teithiau Cerdded Maes Tanio Castellmartin

Pricaston Farm 1380x1035

Taith Bws Mini Maes Castellmartin

Dydd Sul 28 Ebrill, 9:30-4:30pm. RHAID ARCHEBU LLE.
Darganfyddwch drysorau cudd Maes cyfyngedig y Weinyddiaeth Amddiffyn ar un o’n teithiau cerdded Maes Castellmartin, neu ar Daith Bws Mini. Archwiliwch y lleoliad unigryw hwn gyda thywyswr lleol profiadol a gwybodus. Dros 18 oed yn unig. Cyfleusterau cyfyngedig ar y safle. Ni chaniateir cŵn. Ni ellir ad-dalu tocynnau. 

Taith Bws Mini Maes Castellmartin - Cyfle i fwynhau taith diwrnod yn archwilio’r Maes, i’r rhai ag anawsterau symudedd. Cwrdd yng Ngwersyll Merrion, Castellmartin (SA71 5EB/SR939969) Gweld ar Google Maps

Pricaston Farm 1380x1035

Maes Tanio Castellmartin - Cylchdaith Brownslade

Dydd Sul 9 Mehefin (Wedi Gwerthu Allan), Dydd Sul 8 Medi, Dydd Sul 15 Medi 9:30am-4:30pm. ARCHEBU'N HANFODOL.
Ar y daith gerdded hon byddwch yn cael cyfle prin i fynd drwy rannau mewnol y maes tanio a gweld ei fywyd gwyllt, y defnydd presennol ohono at ddibenion milwrol, ei hanes o’r Oes Haearn ymlaen a’r effaith sydd wedi bod arno o ganlyniad i ddatblygu amaethyddiaeth. I rai dros 18 oed yn unig. Cyfleusterau cyfyngedig ar y safle. Dim cŵn. Cwrdd yng Ngwersyll Merrion, Castellmartin (SA71 5EB/SR939969). Ni roddir ad-daliadau.

 

53 Pen y Holt 02

Maes Tanio Castellmartin – Staciau Elegug – Brownslade – Llwybr y Glannau

 Dydd Llun 27 Mai, Dydd Sul 16 Mehefin, Dydd Sul 14 Gorffennaf, Dydd Sul 4 Awst, Dydd Llun 26 Awst  9.30am–4.30pm. ARCHEBU'N HANFODOL

Dewch i ddarganfod y trysorau cudd y tu allan i’r oriau cyfyngedig ym maes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Cyfle i weld y lle unigryw hwn gyda thywysydd lleol profiadol a gwybodus. I rai dros 18 oed yn unig. Cyfleusterau cyfyngedig ar y safle. Dim cŵn.
Diwrnod llawn ar droed. Ar y daith gerdded hon, byddwch yn gweld nodweddion daearegol trawiadol a golygfeydd godidog o’r arfordir. Cewch ddysgu am hanes diddorol y Maes Tanio a gweld ei fywyd gwyllt, ei archeoleg a’i ddaeareg. Cwrdd yn Gwersyll Merrion, Castellmartin (SA71 5EB/SR939969).